Hanes Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi
Mae'r Goron wedi bod yn gyfrifol am redeg y llysoedd am dros 900 mlynedd. Dros y blynyddoedd mae'r asiantaeth sydd bellach yn dwyn y teitl Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi wedi cael sawl enw gwahanol, Adran yr Arglwydd Ganghellor a'r Gwasanaeth Llys yn ddim ond dau ohonynt.
Dyddiadau allweddol yn yr 20fed Ganrif:
Y Llysoedd Ynadon yn dod yn rhan o'r Swyddfa Gartref, yn cael eu gweinyddu'n lleol drwy 42 o Bwyllgorau Llysoedd Ynadon.
1972 Y Ddeddf Llysoedd yn disodli'r Brawdlysoedd gyda Llysoedd y Goron
1977 Adran yr Arglwydd Ganghellor yn dod yn un o Adrannau blaenllaw y Llywodraeth.
1995 Y Gwasanaeth Llys yn cael ei lansio fel un o asiantaethau gweithredol Adran yr Arglwydd Ganghellor. Ei bwrpas oedd delio gyda busnes gweithredol Llys y Goron, y llysoedd sirol a'r Goruchaf lys.
2001 Argymhellodd Adolygiad Auld y dylid datblygu un asiantaeth ar gyfer gweinyddu cyfiawnder, gan ddod â Gwasanaeth y Llysoedd Ynadon a'r Gwasanaeth Llys at ei gilydd yn un sefydliad gweinyddol.
2003 - Mehefin Cafodd Adran yr Arglwydd Ganghellor enw newydd - Yr Adran Materion Cyfansoddiadol (AMC), yn cael ei harwain gan Ysgrifennydd Gwladol a oedd yn cadw swydd yr Arglwydd Ganghellor.
2003 - Tachwedd Deddf Llysoedd 2003 yn nodi'r fframwaith ar gyfer yr asiantaeth newydd - Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi.
1 Ebrill 2005
Lansio Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi, gan gysylltu gweinyddiaeth y Llysoedd Ynadon, Llys y Goron, y llys sirol a'r Goruchaf Lys â'i gilydd am y tro cyntaf.
