Y Llys Gweinyddol
Awdurdodaeth | Barnwyr a enwebir i ddelio â rhestr y Llys Gweinyddol | Staff y Llys Gweinyddol | Eisteddiadau'r Llys | Atodiad A - Awdurdodaeth
Mae awdurdodaeth y Llys Gweinyddol yn un amrywiol. Mae'n cynnwys awdurdodaeth cyfraith weinyddol Cymru a Lloegr, yn ogystal ag awdurdodaeth oruchwylio dros lysoedd is a thribiwnlysoedd.
Mae'r awdurdodaeth oruchwylio yn cael ei rhoi ar waith yn bennaf drwy'r drefn Adolygiadau Barnwrol, ac mae'n ymwneud â phobl neu gyrff sy'n ymarfer swyddogaeth cyfraith gyhoeddus - maes eang sy'n dal i dyfu. Dyma enghreifftiau o'r mathau o benderfyniad, a all ddod o fewn cwmpas Adolygiad Barnwrol:
- Penderfyniadau awdurdodau lleol wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau i ddarparu budd-daliadau lles amrywiol ac addysg arbennig i blant sydd ag angen addysg o'r fath;
- Penderfyniadau penodol gan yr awdurdodau mewnfudo a'r Awdurdod Apeliadau Mewnfudo;
- Penderfyniadau cyrff rheoleiddio;
- Penderfyniadau'n ymwneud â hawliau carcharorion.
Mae Atodiad A yn rhoi disgrifiad byr o'r mathau o achosion y delir â nhw a sut y rhennir y gwaith rhwng llysoedd barnwr unigol a Llysoedd Adrannol (sy'n cynnwys o leiaf ddau farnwr ac, fel arfer, Arglwydd Ustus Apêl yn eistedd gyda barnwr yr Uchel Lys).
Barnwyr a enwebir i ddelio â Rhestr y Llys Gweinyddol
Enwebir barnwyr gan yr Arglwydd Brif Ustus i eistedd ar achosion Gweinyddol. Ar hyn o bryd, ceir 37 o farnwyr, gan gynnwys barnwyr yr Adran Siawnsri a'r Adran Deulu sy'n gweithredu fel barnwyr ychwanegol yn Adran Mainc y Frenhines wrth ddelio ag achosion Llys Gweinyddol. Yr Anrhydeddus Mr Ustus Collins yw'r Prif Farnwr ac mae ganddo oruchwyliaeth a rheolaeth farnwrol dros y Llys Gweinyddol.
Swyddfa'r Llys Gweinyddol sy'n gyfrifol am weinyddiaeth y Llys, dan gyfarwyddyd Meistr y Llys Gweinyddol, Master Venne a Mrs Lynn Knapman, Pennaeth Swyddfa'r Llys Gweinyddol. Mae'r staff yn cynnwys cyfreithiwr a graddfeydd gweinyddol. Mae gan bob cyfreithiwr faich achos ac mae'n gyfrifol am reoli'r baich achos hwnnw'n effeithiol. Rhennir beichiau achos cyfreithwyr yn ôl eu pwnc (Word 33.28kb) (Saesneg).
Eisteddiadau'r Llys
Mae pob cyfansoddiad, boed yn Llys Adrannol neu'n farnwyr unigol, yn eistedd am oddeutu 3 wythnos. Nid oes modd gorbwysleisio pa mor bwysig i'r Llys yw papurau a dadleuon ysgrifenedig sydd wedi'u paratoi'n briodol.
Mae gan y Llys Gweinyddol chwe ystafell llys a ddefnyddiant yn rheolaidd yn y Llysoedd Barn Brenhinol: Llysoedd 1,2,3,10,27 a 28.
Atodiad A - Awdurdodaeth
Adolygiad barnwrol - o benderfyniadau llysoedd is a thribiwnlysoedd, cyrff cyhoeddus a phobl sy'n ymarfer swyddogaeth gyhoeddus. Gall achosion troseddol ddeillio o benderfyniadau Llysoedd Ynadon neu Lys y Goron pan fo'n gweithredu yn ei swyddogaeth apêl.
Apeliadau a cheisiadau statudol - yr hawl a roddir trwy rai statudau i herio penderfyniadau e.e. Gweinidogion, Llywodraeth Leol, Tribiwnlysoedd.
Her adolygiad statudol i benderfyniadau'r TAM i wrthod caniatâd i apelio.
Apeliadau ar sail datgan achos - apeliadau yn erbyn penderfyniadau llysoedd ynadon a Llys y Goron (achosion troseddol yn bennaf)
Ceisiadau am habeas corpus
Ceisiadau ar gyfer traddodi am ddirmyg
Ceisiadau am orchymyn i rwystro ymgyfreithwyr blinderus rhag sbarduno neu barhau ag achosion heb ganiatâd barnwr
Ceisiadau dan Ddeddf Crwneriaid 1988
Mae'n ofynnol trwy statud neu reolau Llys bod rhai materion yn cael eu clywed gan Lys Adrannol (h.y. llys â dau neu ragor o farnwyr):
- Ceisiadau ar gyfer traddodi am ddirmyg lle bo'r dirmyg (a) yn cael ei gyflawni mewn perthynas â (i) achosion gerbron Llys Adrannol Mainc y Frenhines, (ii) achosion troseddol (heblaw ei fod yn wyneb y llys neu'n anufuddhau i orchymyn), (iii) achosion mewn llys is neu (b) yn cael ei gyflawni yn rhywle heblaw mewn unrhyw achos;
- Apeliadau gan Dribiwnlys Disgyblu Cymdeithas y Cyfreithwyr. Mae apeliadau o'r fath yn cael eu clywed gan lys tri barnwr, onid yw'r Arglwydd Brif Ustus yn cyfarwyddo fel arall. Yn ôl confensiwn, mae'r apeliadau hyn yn cael eu clywed gan Lys sydd dan lywyddiaeth yr Arglwydd Brif Ustus;
- Ceisiadau dan a.13 Deddf Crwneriaid 1988 (gyda ffiat y Twrnai Cyffredinol);
- Ceisiadau am orchmynion ymgyfreithwyr blinderus dan a.42 Deddf y Goruchel Lys 1981;
- Ceisiadau'n ymwneud ag etholiadau seneddol a llywodraeth leol dan Ddeddfau Cynrychiolaeth y Bobl (heblaw bod modd eu hymarfer gan farnwr unigol trwy ddarpariaeth statudol benodol).
Eraill y gellir eu clywed, ac y gwneir hynny gan amlaf, gan Lys Adrannol:
- Ceisiadau am adolygiad barnwrol mewn achos neu fater troseddol;
- Ceisiadau am ganiatâd i wneud cais am adolygiad barnwrol mewn achos neu fater troseddol, ar ôl i farnwr unigol wrthod (boed hynny ar bapur neu ar ôl dadl lafar);
- Apeliadau ar sail datgan achos mewn achos neu fater troseddol, boed hynny o Lys y Goron neu o lys ynadon;
Bydd materion sy'n weddill ar Restr y Llys Gweinyddol, fel arfer, yn cael eu clywed gan farnwr unigol.
