English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Arweiniad i E-bostio'r Llysoedd Cysylltu â Ni Nod Siarter Siarter y Llysoedd

Cwynion


Cwyno

Mae Taflen EX343 yn rhoi canllawiau sy'n esbonio beth i'w wneud os nad ydych yn fodlon â'r gwasanaeth a dderbyniasoch gan y staff gweinyddol neu gydag unrhyw agwedd arall ar weithdrefn eich achos. Gyda phob cwyn a dderbyniwn, cawn gyfle i unioni'r sefyllfa.

Os nad ydych yn fodlon â safon y gwasanaeth a dderbyniasoch dylech yn y lle cyntaf, ysgrifennu at Reolwr y llys perthnasol. Bydd y Rheolwr yn ymchwilio i'r gwyn ac yn rhoi ateb i chi.

Os nad ydych chi'n fodlon â'r ymateb, gallwch ysgrifennu at y Cyfarwyddwr/wraig Ardal.

Gallwch hefyd gysylltu â'r Uned Gwasanaeth Cwsmeriaid a all eich cynorthwyo drwy gynnig cyngor am weithdrefnau.

Cofiwch: Ni all staff y llys gynnig sylwadau ar benderfyniadau a wnaed gan y farnwriaeth.

Trin Cwynion-Sut mae pethau'n mynd?

Yn ystod 2006/07, llwyddodd GLlEM i ragori ar ei dargedau ar gyfer trin cwynion yn effeithiol.

  Targed Perfformiad
Llysoedd unigol Trin 85% o'r cwynion o fewn 5 diwrnod gwaith 88%
Swyddfa'r Cyfarwyddwr Ardal Trin 85% o'r cwynion a dderbyniwyd o fewn 10 diwrnod gwaith 88%
Yr Uned Gwasanaeth Cwsmeriaid Trin 94% o'r cwynion o fewn 15 diwrnod gwaith 97%

 




^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 02 November 2007 13:27. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .