Mae'r atebydd wedi ateb fy neiseb - beth ddylwn i ei wneud?
Tudalen 1 o 8
Mae'r cyfarwyddyd hwn ar gael ar ffurf pdf hefyd.
Os oes gennych blant, gwnewch yn siwr eich bod yn darllen y wybodaeth ar Blant ac ysgariad, yn ogystal â'r wybodaeth hon.
Beth ddylwn i ei wneud gyda'r copi o ffurflen D10 (cydnabyddiaeth cyflwyno) yr atebydd (ac unrhyw gyd-atebydd)?
Edrychwch pa ateb a roddodd yr atebydd (ac unrhyw gyd-atebydd) i'r cwestiwn 'Ydych chi'n bwriadu amddiffyn yr achos?'
Os mai'r ateb yw 'Na', gallwch ofyn i'r llys ystyried:
- a oes gennych sail i gael ysgariad ai peidio; ac
- a yw'r trefniadau a gynigir gennych ar gyfer unrhyw blant yn foddhaol.
Gelwir hyn yn 'wneud cais am gyfarwyddyd ar gyfer treial'.
Os yw'r atebydd yn ateb 'Na' i'r cwestiwn 'Ydych chi'n cytuno â datganiad y deisebydd ynglyn â'r seiliau awdurdodaeth a nodir yn y ddeiseb?, bydd y llys yn eich hysbysu os oes angen i chi weld y Barnwr. Os oes angen i chi ddod i'r llys, dylech ofyn i dwrnai eich cynorthwyo.
