Y Llys Apêl
Mae'r Llys Apêl, sy'n eistedd yn Llundain yn y Llysoedd Barn Brenhinol, yn cynnwys dwy adran:
Yr Adran Sifil, sy'n gwrando apeliadau o:
- Dair adran yr Uchel Llys (Siawnsri, Mainc y Frenhines a'r Adran Deulu)
- Lysoedd Sirol Cymru a Lloegr,
- Rai Tribiwnlysoedd fel y Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth, y Tribiwnlys Apêl Mewnfudo, y Tribiwnlys Tiroedd a'r Comisiynwyr Nawdd Cymdeithasol.
Yr Adran Droseddol, sy'n gwrando apeliadau o Lys y Goron.
Y Llys Apêl yw llys uchaf Barnwriaeth y Goruchel Llys, sydd hefyd yn cynnwys yr Uchel Lys a Llys y Goron.
Yn Nhŷ'r Arglwyddi, o'i gymharu â'r Llys Apêl, ceir dim ond 12 Arglwydd Apêl ("arglwyddi cyfraith"), sydd fel rheol yn eistedd ar baneli o bum barnwr.
Fel rheol bydd y Llys Apêl yn eistedd mewn hyd at 12 llys yn y Llysoedd Barn Brenhinol.
Syr Anthony Clarke, Meistr y Rholiau, yw Llywydd y Llys Apêl, Adran Sifil. Mae hefyd yn Bennaeth Cyfiawnder Sifil.
Arglwydd Ustus Waller yw Is-Lywydd y Llys Apêl, Adran Sifil
Ceir 37 barnwr rheolaidd arall yn y Llys Apêl gyda'r teitl Arglwydd/Arglwyddes Ustus. Mae nifer ohonynt yn eistedd yn Adran Droseddol y Llys Apêl ac yn Llys Adrannol Adran Mainc y Frenhines.
Bydd y pedwar Pennaeth Adran arall yn eistedd o bryd i'w gilydd yn Adran Sifil y Llys Apêl. Y rhain yw:
- Arglwydd Phillips o Worth Matravers, Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, sydd hefyd yn Llywydd Adran Droseddol y Llys Apêl
- Syr Igor Judge, Llywydd Adran Mainc y Frenhines
- Syr Mark Potter, Llywydd yr Adran Deulu
- Syr Andrew Morritt, y Canghellor
