Yr Adran Siawnsri
Mae Adran Siawnsri'r Uchel Lys wedi'i lleoli yn Adeilad Thomas More yn y Llysoedd Barn Brenhinol yn Llundain, ac mae wedi'i rhannu rhwng Siambrau'r Siawnsri a'r Llys Methdaliad a Chwmnïau.
Mae'r swyddfa ar agor rhwng 10.00am a 4.30pm
Siambrau'r Siawnsri
Ein Gwaith | Meistri'r Siawnsri | Cofrestrfa | Adran Penodiadau Meistri | Adran Gorchmynion a Chyfrifon | Cysylltu â Ni | Trawsgrifiadau
Ein Gwaith
Mae gwaith yr Adran Siawnsri, yr ymdrinnir â hi gan Siambrau'r Siawnsri, yn cynnwys hawliadau sy'n ymwneud â'r canlynol:
- ymddiriedolaethau
- profiant cynhennus (herio a yw ewyllys yn ddilys)
- cwmnïau
- tir
- hawliadau eraill – er enghraifft, ar gyfer esgeulustod proffesiynol neu dorri amodau contract sy'n cynnwys materion yn ymwneud â gweithdrefnau neu gyfreithiau ymddiriedolaethau, cwmnïau, tir neu drawsgludo
- hawliadau ar gyfer diddymu partneriaethau neu gymryd cyfrifon partneriaeth
- hawliadau dan Ddeddf Etifeddiant (Darpariaeth i Deulu a Dibynyddion) 1975 achosion ar gyfer torri cyfamod cyfyngu (cytundeb mewn gweithred sy'n cyfyngu ar ddefnydd neu fwynhad perchennog o'i (h)eiddo); torri ymddiriedaeth neu ddyletswydd ymddiriedol (y ddyletswydd sydd ar berson sydd mewn sefyllfa o ymddiriedaeth e.e. twrnai neu ymddiriedolwr)
- anghydfodau masnachol gan gynnwys anghydfodau masnachol rhyngwladol
- hawliadau sy'n ymwneud ag aelodaeth neu waharddiad o glwb neu gymdeithas gorfforedig arall, neu eu diddymu
- materion refeniw (h.y. apeliadau yn erbyn amrywiol drethi, megis Treth Incwm neu TAW)
- Y Llys Patentau: eiddo deallusol megis hawlfraint, patentau a dyluniadau cofrestredig, tramgwyddau nod masnach, dyfeisiadau ac ymhonni (camgyfleu nwyddau neu wasanaethau person fel rhai rhywun arall). Er y cânt eu rhestru ar wahân, cychwynnir achosion yn y Llys Patentau yng Nghofrestrfa'r Siawnsri, ac ymdrinnir â hwy gan Farnwyr a Meistri'r Siawnsri a enwebir i wneud hynny.
Gellir cael mwy o wybodaeth am y busnes yr ymdrinnir ag ef yn Siambrau'r Siawnsri yn yr Arweiniad i Siawnsri (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg), gan Swyddfa Ffioedd y Llysoedd Barn Brenhinol drwy dalu £4.75, ac yn y Rheolau Gweithdrefnau Sifil
Meistri'r Siawnsri yw:
- Y Prif Feistr Winegarten
- Y Meistr Moncaster
- Y Meistr Bragge
- Y Meistr Bowles
- Y Meistr Price
- Y Meistr Teverson
Dylid cyflwyno pob cais am wrandawiad gerbron y Meistri yn yr Adran Penodiadau Meistri (Ystafell TM 709). Dylid anfon pob gohebiaeth ynglŷn â materion gerbron Meistri'r Siawnsri i'r adran hon yn gyntaf.
Mae'r adran hon wedi'i lleoli yn ystafell TM 5.05 ar y 5ed llawr, ac mae'n gyfrifol am y canlynol:
- cychwyn a diwygio holl brosesau'r Siawnsri
- addefiadau
- ffeilio amddiffyniadau
- cydnabyddiadau cyflwyno a thystysgrifau cyflwyno
- holiaduron dyrannu
- hysbysiadau newid
- chwiliadau am hawliadau a cheisiadau am ddogfennau copi swyddfa
- cyflwyno ceisiadau ar gyfer dyfarniadau drwgdalu
- ymdrin ag ymholiadau ynghylch ffioedd y llys
- cyflwyno gwysion i dystion
- ffeilio affidafidion a datganiadau tystion (ar wahân i'r rhai hynny a gyflwynir o fewn 2 ddiwrnod i wrandawiad gerbron Meistr, a gaiff eu ffeilio yn ystafell TM 7.09)
- trosglwyddiadau i mewn ac allan o'r Adran Siawnsri gan lysoedd eraill (h.y. adrannau eraill yr Uchel Lys neu'r Llysoedd Sirol)
Rhif ffôn: 020 7947 6571
Mae'r adran hon wedi'i lleoli yn ystafell TM 7.09 ar y 7fed llawr, ac mae'n gyfrifol am y canlynol:
- cyhoeddi rhybuddion cyflwyno cais ar gyfer gwrandawiad gerbron Meistri'r Siawnsri
- trefnu gwrandawiadau gerbron Meistri'r Siawnsri
- ymdrin â cheisiadau am orchmynion cydsynio
- ceisiadau heb rybudd gerbron Meistri'r Siawnsri
- cyflwyno dadleuon fframwaith a bwndeli ar gyfer gwrandawiadau gerbron Meistri'r Siawnsri
- ffeilio affidafidion a datganiadau tystion o fewn 2 ddiwrnod i wrandawiadau gerbron Meistri'r Siawnsri
- ceisiadau i gyflwyno dogfennau y tu allan i'r awdurdodaeth (h.y. y tu allan i Gymru a Lloegr)
- ffeilio grantiau a dogfennau testamentaidd dan Ran 57 y Rheolau Gweithdrefnau Sifil mewn achosion profiant a ymleddir
Rhif ffôn: 020 7947 6095
Adran Gorchmynion a Chyfrifon (Cymdeithion y Llys)
Mae'r adran hon wedi'i lleoli yn ystafell TM 5.07 ar y 5ed llawr, ac mae'n gyfrifol am y canlynol:
- drafftio gorchmynion Barnwyr a Meistri
- drafftio ac archwilio amserlenni talu
- taliadau amrywiol allan o'r llys
- ymddiriedolwr barnwrol ac, mewn achosion profiant a ymleddir, gwaith derbynyddiaeth
- cyflwyniadau i'r llys yn unol â Deddf Ymddiriedolwyr 1925
- ffeilio Affidafidion sy'n ymwneud â thaliadau i'r llys dan Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925, Deddf Pryniant Gorfodol 1965 a Deddf Cydgrynhoi Cymalau Tir 1845.
- cofrestru dyfarniadau, gorchmynion a dirwyon dan Reoliadau Cofrestru Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon 2005
Rhif ffôn: 020 7947 6754
E-bost: rcjchancery.ordersandaccounts@hmcourts-service.gsi.gov.uk
Rheolwr Adran Mike Bishop 020 7947 7472
Rheolwr Llys Jane O'Connor 020 7947 6075
Dirprwy Reolwr Llys Jackie Burns 020 7947 6754
FFACS (pob adran) 020 7947 7422
Nodwch: nid yw staff y llys wedi derbyn hyfforddiant cyfreithiol ac ni allant roi cyngor cyfreithiol i chi.
Dylid cyflwyno pob ymholiad sy'n ymwneud â rhestru achosion gerbron Barnwyr Adran y Siawnsri i Swyddfa Rhestru Barnwyr y Siawnsri (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
Os oes arnoch angen trawsgrifiad o wrandawiad gerbron Barnwr neu Feistr, cysylltwch ag Uned Trawsgrifio a Chofnodi'r Llysoedd yn Ystafell WB14
Ffôn: 020 7947 6154/7771
Ffacs: 020 7947 6662
