English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Adneuo dogfennau i'w cadw'n ddiogel Ail-selio Amdanom Ni Apwyntiadau Cafeatau Canllawiau Ceisiadau am brofiant Chwiliadau ac Ymchwil Cofrestrfeydd Profiant Cynnal chwiliad sefydlog Cysylltu â Ni Deddf Partneriaeth Sifil 2004 Ffioedd Profiant Ffurflenni a taflenni Grantiau Cynrychiolaeth Gweithdrefnau profiant yn yr Alban a Gogledd Iwerddon Llinell Gymorth Profiant a'r Dreth Etifeddu Pam gwneud ewyllys? Rheolau Profiant Tynnu Ewyllysiau o fannau cadw diogel

Adnoddau pellach

Age Concern Canolfan Cyngor ar Bopeth Cofrestrydd Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau Cyllid a Thollau EM Cymdeithas y Gyfraith Gofal Galaru Cruse Help the Aged Llysoedd Gogledd Iwerddon Llysoedd Ynys Manaw Llysoedd yr Alban Swyddfa Gwarchodaeth y Cyhoedd

Gaf i dynnu allan ewyllys sydd wedi ei chadw'n ddiogel?


Pa ddogfennau y gellir eu hadneuo er mwyn eu cadw'n ddiogel?

A godir tâl am dynnu allan ewyllys neu godisil sy'n cael eu cadw'n ddiogel?

Pwy gaiff dynnu allan ewyllys sydd wedi ei chadw'n ddiogel?

Sut mae gwneud cais i dynnu allan ewyllys sydd wedi ei chadw'n ddiogel?

Credaf y gallai'r ymadawedig fod wedi gadael ewyllys gyda'r Uchel Lys, i'w chadw'n ddiogel. Oes modd i mi chwilio, a gwirio hynny?

Pa ddogfennau y gellir eu hadneuo er mwyn eu cadw'n ddiogel?

Gellir cyflwyno ewyllys, neu godisil (dogfen destament yn addasu ewyllys), neu'r ddau ynghyd, i'r Uchel Lys Barn, er mwyn eu cadw'n ddiogel. Y ffi ar gyfer adneuo ewyllys neu godisil yw £15 - os carech chi gael mwy o fanylion am adneuo ewyllys (neu godisil), gofynnwch am y daflen 'Rwyf eisiau adneuo fy ewyllys er mwyn ei chadw'n ddiogel ym Mhrif Gofrestrfa'r Adran Deulu'.

Adneuir pob ewyllys/codisil gyda'r Uchel Lys yn unol ag Adran 126 Deddf Goruchaf Lys 1981, ac unwaith iddynt gael eu hadneuo, dônt dan reolaeth a chyfarwyddyd yr Uchel Lys. Pennir y trefniadau ar gyfer adneuo a thynnu allan y dogfennau hynny a gedwir yn ddiogel trwy statud ac, o'r herwydd, rhaid glynu'n gaeth wrth y trefniadau hynny. Dylech gofio hyn os ydych chi'n gwneud cais i dynnu dogfen allan.

^Brig

A godir tâl am dynnu allan ewyllys neu godisil sy'n cael eu cadw'n ddiogel?

Na. Ni chodir unrhyw dâl am dynnu allan ewyllys neu godisil sy'n cael eu cadw'n ddiogel.

Yng ngweddill y ffurflen hon, defnyddir y term 'ewyllys', ond mae'r un drefn yn berthnasol os ydych chi'n tynnu allan ewyllys, a/neu godisil.

^Brig

Pwy gaiff dynnu allan ewyllys sydd wedi ei chadw'n ddiogel?

Yn ystod oes yr ewyllysiwr (h.y. y person a wnaeth yr ewyllys) dim ond yr ewyllysiwr a gaiff wneud cais i dynnu'r ewyllys allan. Ar ôl i'r ewyllysiwr farw, caiff un (neu fwy) o'r ysgutorion wneud cais. Mae ysgutor yn berson a benodwyd yn yr ewyllys i gyflawni telerau'r ewyllys. Dan amgylchiadau eithriadol, os nad oes ysgutorion, gall eraill wneud cais, ond mewn sefyllfa o'r fath, rhaid cael caniatâd Barnwr Rhanbarth i sicrhau bod yr ewyllys yn cael ei rhoi i'r person cywir.

Rhaid i'r Ceidwad Cofnodion sicrhau bod yr ewyllys yn cael ei rhoi i'r person cywir. Ar ôl derbyn prawf o farwolaeth, agorir yr amlen adneuo sy'n cynnwys yr ewyllys. Yn ddieithriad, cyn i ewyllys gael ei thynnu allano gael ei chadw'n ddiogel, rhaid sefydlu mai'r person sy'n gwneud y cais yw'r union berson (neu un o'r bobl) sydd â hawl i dderbyn yr ewyllys yn unol â'r rheolau a'r statudau sy'n llywodraethu arferion profiant.

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y rheolau a'r statudau sy'n llywodraethu arferion profiant, gellir cael manylion yn y llyfr canlynol a ddylai fod ar gael yn eich llyfrgell gyfeirio leol - Tristram and Cootes, 'Probate Practice', 28ain Rhifyn.

^Brig


Sut ydw i'n gwneud cais i dynnu allan ewyllys sydd wedi ei chadw'n ddiogel?

Mae'r tabl isod yn cynnwys manylion llawn am sut i dynnu allan ewyllys sydd wedi ei chadw'n ddiogel naill ai yn ystod oes yr ewyllysiwr neu ar ôl iddo/iddi farw.

Sut i dynnu allan eich ewyllys eich hun, a honno wedi ei chadw'n ddiogel

^Brig

Sut i dynnu allan ewyllys ar ôl i'r ewyllysiwr farw

^Brig

Credaf y gallai'r ymadawedig fod wedi gadael ewyllys gyda'r Uchel Lys, i'w chadw'n ddiogel. Oes modd i mi chwilio, a gwirio hynny?

Oes. Anfonwch gopi swyddogol o'r dystysgrif farwolaeth (neu lungopi y mae twrnai wedi tystio ei fod yn wir ac yn gywir) gyda llythyr yn gofyn am archwiliad o gofrestr yr ewyllysiau sy'n cael eu cadw'n ddiogel. Cyfeiriwch eich llythyr at y Clerc Cadw'n Ddiogel, Adran y Ceidwad Cofnodion, First Avenue House, 42-49 High Holborn, Llundain, WC1V 6NP


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 02 December 2008 14:30. Uned Iaith Gymraeg Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi.
. Telerau ac Amodau .