Adneuo dogfennau i'w cadw'n ddiogel
Sut ydw i'n cyflwyno fy ewyllys i'w chadw'n ddiogel?
Oes yna unrhyw reoliadau'n ymwneud ag adneuo ewyllysiau gyda'r Uchel Lys?
Ble byddai eich ewyllys yn cael ei storio?
Pa ddogfennau gaf i eu hadneuo er mwyn eu cadw'n ddiogel?
Sut ydw i'n cyflwyno fy ewyllys i'w chadw'n ddiogel?
Mae'n bwysig eich bod yn darllen yr adran hon yn ofalus. Rhaid dilyn y gweithdrefnau'n gywir a rhaid i'r holl fanylion y gofynnir amdanynt gael eu darparu neu fel arall efallai na fydd yn bosibl derbyn eich ewyllys i'w chadw'n ddiogel.
Gallwch chi neu rywun arall ar eich rhan adneuo eich ewyllys.
Y ffi ar gyfer adneuo ewyllys neu godisil yn First Avenue House yw £15.00. Os byddwch chi'n adneuo eich ewyllys a chodisil gyda'i gilydd ar yr un pryd yn yr un amlen, y ffi fydd £15.00 o hyd, gyda'r siec yn daladwy i GLlEM.
Darllenwch yr adran sy'n dilyn os gwelwch yn dda gan ei bod yn rhoi manylion llawn am sut i gyflwyno'ch ewyllys i'w chadw'n ddiogel.
Er y defnyddir y term 'ewyllys' drwy'r adrannau sy'n dilyn, mae'r un drefn yn berthnasol os ydych yn adneuo ewyllys a/neu godisil.
Ewyllys a ddygir i mewn gennych chi'n bersonol
- Ewch â'ch ewyllys i'r Gofrestrfa Brofiant o'ch dewis (gwiriwch yr amseroedd agor ymlaen llaw).
- Byddant yn cyflwyno amlen i chi ei lenwi.
- Rhaid i chi lenwi'r holl fanylion y gofynnir amdanynt ar yr amlen h.y. Y ddogfen/dogfennau sy'n cael eu hadneuo
- Dyddiad eich ewyllys
- Eich enw llawn
- Eich cyfeiriad llawn
- Enwau a chyfeiriadau llawn eich ysgutorion
- Union ddyddiad eich geni
Ym mhresenoldeb swyddog o'r Gofrestrfa Brofiant, seliwch eich ewyllys yn yr amlen ac arwyddo'r amlen yn y man priodol. Yna bydd y Swyddog Profiant yn arwyddo'r amlen.
Yna gofynnir i chi dalu'r £15.00 i adneuo'ch ewyllys. Bydd y Swyddog Profiant yn derbyn yr ewyllys gennych. O hynny ymlaen, fe'i cedwir yn ddiogel ym Mhrif Gofrestrfa'r Adran Deulu. Byddwch un ai'n derbyn tystysgrif adneuo ar unwaith, neu anfonir tystysgrif adneuo atoch o fewn pythefnos.
Ewyllys a anfonir drwy'r post gennych chi
- Rhaid i chi gael pecyn amlen cadw ewyllys yn ddiogel un ai o Gofrestrfa Brofiant Ddosbarth, Is-Gofrestrfa Brofiant neu Adran y Ceidwad Cofnodion (Ffôn: 020 7947 6948)
- Rhaid i chi lenwi'r holl fanylion y gofynnir amdanynt ar yr amlen h.y. Y ddogfen/dogfennau sy'n cael eu hadneuo
- Dyddiad eich ewyllys
- Eich enw llawn
- Eich cyfeiriad llawn
- Enwau a chyfeiriadau llawn eich ysgutorion
- Union ddyddiad eich geni
- Seliwch eich ewyllys yn yr amlen ac ym mhresenoldeb tyst arwyddwch yr amlen yn y man priodol. Rhaid i'ch tyst arwyddo'r amlen hefyd ac ysgrifennu ei enw a'i gyfeiriad ef/hi mewn llythrennau bras
- Anfonwch eich ewyllys (drwy'r post cofrestredig neu gofnodedig) ynghyd â llythyr wedi'i lofnodi'n gwneud cais i'ch ewyllys gael ei chadw yn First Avenue House *, gan amgáu'r ffi o £15.00 i:
Adran y Ceidwad Cofnodion
Prif Gofrestrfa'r Adran Deulu
First Avenue House
42 - 49 High Holborn
Llundain WC1V 6NP
(Dim ond yn y cyfeiriad uchod y gellir derbyn ewyllysiau a anfonir drwy'r post)
- Os bydd yr holl fanylion yn gywir, anfonir tystysgrif adneuo atoch o fewn pythefnos
- Oni fyddwch yn darparu'r holl fanylion y gofynnir amdanynt, ni ellir derbyn eich ewyllys i'w chadw. Bydd angen i ni gysylltu â chi i ofyn am y manylion hynny.
- Os methir â darparu'r manylion hynny, gallai olygu y dychwelir eich ewyllys atoch
- Amgaeir ffurflen wedi'i rhagargraffu yn gwneud cais i adneuo'r ewyllys yn First Avenue House gyda phob pecyn cadw'n ddiogel a anfonir o Adran y Ceidwad Cofnodion. Os llofnodir a dychwelyd y ffurflen hon, mae'n dderbyniol yn lle llythyr
Ewyllysiau a ddygir i mewn gan rywun arall ar eich rhan
- Rhaid i chi gael pecyn amlen cadw ewyllys yn ddiogel un ai o Gofrestrfa Brofiant Ddosbarth, Is-Gofrestrfa Brofiant neu Adran y Ceidwad Cofnodion (Ffôn: 020 7947 6948)
- Rhaid i chi lenwi'r holl fanylion y gofynnir amdanynt ar yr amlen h.y. Y ddogfen/dogfennau sy'n cael eu hadneuo
- Dyddiad eich ewyllys
- Eich enw llawn
- Eich cyfeiriad llawn
- Enwau a chyfeiriadau llawn eich ysgutorion
- Union ddyddiad eich geni
- Seliwch eich ewyllys yn yr amlen ac ym mhresenoldeb tyst arwyddwch yr amlen yn y man priodol. Rhaid i'ch tyst arwyddo'r amlen hefyd ac ysgrifennu ei enw a'i gyfeiriad ef/hi mewn llythrennau bras
Rhaid i'ch asiant fynd â'ch ewyllys i Gofrestrfa Brofiant o'ch dewis chi (gwiriwch yr amseroedd agor ymlaen llaw) ynghyd â llythyr o awdurdod a lofnodwyd gennych chi yn caniatáu i'ch asiant adneuo eich ewyllys yn First Avenue House (e.e. Yr wyf i John James Smith yn awdurdodi Allen John Ford i adneuo hon, sef fy ewyllys, yn First Avenue House i'w chadw'n ddiogel ar fy rhan) a thalu'r ffi adneuo o £15.00. Gweler y rhestr o'r holl Gofrestrfeydd Profiant. - Os darperir yr holl fanylion yn unol â'r gofyn, byddwch yn derbyn tystysgrif adneuo drwy'r post o fewn pythefnos. Bydd eich asiant hefyd yn derbyn llungopi o'r dystysgrif honno. Cedwir eich ewyllys yn ddiogel ym Mhrif Gofrestrfa'r Adran Deulu.
Ewyllysiau a anfonir i mewn gan rywun arall ar eich rhan
- Rhaid i chi gael pecyn amlen cadw ewyllys yn ddiogel un ai o Gofrestrfa Brofiant Ddosbarth, Is-Gofrestrfa Brofiant neu Adran y Ceidwad Cofnodion (Ffôn: 020 7947 6948)
(Ffôn testun 18001 020 7947 7389) - Rhaid i chi lenwi'r holl fanylion y gofynnir amdanynt ar yr amlen h.y. Y ddogfen/dogfennau sy'n cael eu hadneuo
- Dyddiad eich ewyllys
- Eich enw llawn
- Eich cyfeiriad llawn
- Enwau a chyfeiriadau llawn eich ysgutorion
- Union ddyddiad eich geni
- Seliwch eich ewyllys yn yr amlen ac ym mhresenoldeb tyst arwyddwch yr amlen yn y man priodol. Rhaid i'ch tyst arwyddo'r amlen hefyd ac ysgrifennu ei enw a'i gyfeiriad ef/hi mewn llythrennau bras. Rhaid i'ch asiant anfon eich ewyllys (drwy'r post cofrestredig neu gofnodedig) ynghyd â llythyr o awdurdod a arwyddwyd gennych chi yn caniatáu i'ch asiant adneuo eich ewyllys yn First Avenue House (e.e. Yr wyf i John James Smith yn awdurdodi Allen John Ford i adneuo hon, sef fy ewyllys, yn First Avenue House i'w chadw'n ddiogel ar fy rhan), gan amgáu'r ffi o £15.00 i: Adran y Ceidwad Cofnodion
Prif Gofrestrfa'r Adran Deulu
First Avenue House
42 - 49 High Holborn
Llundain WC1V 6NP
(Dim ond yn y cyfeiriad uchod y gellir derbyn ewyllysiau a anfonir drwy'r post)
Os bydd yr holl fanylion yn gywir, anfonir tystysgrif adneuo atoch o fewn pythefnos. Bydd eich asiant hefyd yn derbyn llungopi o'r dystysgrif honno. Oni fyddwch yn darparu'r holl fanylion y gofynnir amdanynt, ni ellir derbyn eich ewyllys i'w chadw. Bydd angen i ni gysylltu â chi i ofyn am y manylion hynny. Os methir â darparu'r manylion hynny, gallai olygu y dychwelir eich ewyllys atoch. Prif Gofrestrfa'r Adran Deulu
Adran y Ceidwad Cofnodion
Prif Gofrestrfa'r Adran Deulu
First Avenue House
42 - 49 High Holborn
Llundain WC1V 6NP
Ffôn: 020 7947 6948
Minicom 18001 020 7947 7389
Oes yna unrhyw reoliadau'n ymwneud ag adneuo ewyllysiau gyda'r Uchel Lys?
Oes. Dylid cofio yr adneuir pob ewyllys gyda'r Uchel Lys yn unol ag Adran 126 Deddf Goruchaf Lys 1981, ac unwaith iddynt gael eu hadneuo, y deuant dan reolaeth a chyfarwyddyd yr Uchel Lys. Os dewiswch adneuo'ch ewyllys gyda'r Uchel Lys, daw'n destun y rheolau a osodir gan Lywydd yr Adran Deulu ac a gytunir gyda'r Arglwydd Ganghellor.
Os hoffech wybod mwy am y rheolau mwn perthynas â chadw ewyllysiau'n ddiogel yn yr Uchel Lys, gellir cael manylion yn Tristram and Cootes 'Probate Practice' 29ain rhifyn - Adran 'Wills of Living Persons', ddylai fod ar gael yn eich llyfrgell gyfeirio leol.
Ble byddai eich ewyllys yn cael ei storio?
Byddai eich ewyllys yn cael ei hadneuo gyda'r Uchel Lys ac yn cael ei storio yn:
Adran y Ceidwad Cofnodion
Prif Gofrestrfa'r Adran Deulu
First Avenue House
42 -49 High Holborn
Llundain WC1V 6NP
Ffôn: 020 7947 6948
Minicom 18001 020 7947 7389
Pa ddogfennau gaf i eu hadneuo er mwyn eu cadw'n ddiogel?
Gallwch adneuo un ai:
- Ewyllys
- Codisil (dogfen destament yn addasu ewyllys)
- Neu'r ddau gyda'i gilydd
